If you're seeing this page there is a problem with the layout.master file of your skin.

Cwm Taf – Asesiad Lles

Fel rhan o'i ddyletswydd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), bydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf yn datblygu Cynllun Lles (erbyn Mai 2018). Bydd y Cynllun yn cynnwys set o Amcanion Lles a'r camau y bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn eu cymryd i'w cwrdd.

Bydd cyflawni'r Amcanion Lles yn llwyddiannus yn helpu i wella lles diwylliannol, economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol y bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghwm Taf nawr ac yn y dyfodol. Gallwch ddilyn datblygiad yr Amcanion Lles a darganfod sut y gallwch chi gymryd rhan yn y sgwrs  yma.

Er mwyn deall beth mae lles yn edrych ar hyn o bryd yng Nghwm Taf a'r hyn sy'n bwysig i'n cymunedau, cynhaliodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus asesiad o les yn gyntaf. Dywedodd hyn wrthym am:

Ein Poblogaeth

Mae Cwm Taf yn cynnwys dwy ardal Llywodraeth leol; Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Mae 295,865 o bobl yn byw yng Nghwm Taf; mae 20% o’r boblogaeth yn byw ym Merthyr Tudful, ac 80% yn Rhondda Cynon Taf .

Mae mwy o bobl yn byw yma nag sy’n byw mewn llefydd cyffelyb eu maint yng Nghymru, ond ni ddisgwylir y bydd ein poblogaeth yn tyfu mor gyflym ac yn yr ardaloedd eraill hyn dros yr ugain mlynedd nesaf.

304,543

Erbyn 2039, disgwylir y bydd ein poblogaeth yn tyfu i 304,543.

Perthyn

Mae teimlo’n rhan o, neu fel petaech yn perthyn i, gymuned yn gwneud gwahaniaeth mawr i lesiant.

Mae pobl gyda gwahanol ddiddordebau, gwybodaeth a barn ar bethe yn dod at ei gilydd yn gallu gwneud llawer mwy o wahaniaeth na nifer o grwpiau bach ac unigolion yn ceisio gwneud gwahaniaeth ar eu pennau eu hunain.

Mae gan nifer o gymunedau yng Nghwm Taf ymdeimlad cymunedol cryf.

Gwybod

Efallai na fydd pobl a chymunedau yn gallu teimlo eu bod yn perthyn iddynt am nad ydynt yn gwybod beth sydd yno i gymryd rhan ynddi.

Mae angen inni sicrhau bod cyn lleied o bethau yn atal pobl rhag cymryd rhan â phosibl.

Mae'r hyn sydd ar gael bob amser yn newid ac mae angen i'n gwasanaethau cyhoeddus ddeall y ffyrdd gorau o rannu gwybodaeth a beth all helpu pobl mewn gwirionedd.

Cysylltu

Mae daearyddiaeth Cwm Taf (y dirwedd, y trefi a'r llwybrau teithio) yn golygu nad yw bob amser yn hawdd cyrraedd lle mae angen i ni fynd, felly mae angen inni edrych ar symud o gwmpas mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwn gysylltu â'n gilydd mewn gwahanol ffyrdd, megis trwy gyfryngau cymdeithasol neu gymunedau ar-lein.

Mae angen inni sicrhau bod y cysylltiadau rhwng cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus yn gryf a bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn helpu yn y ffyrdd iawn.

Defnyddio'r hyn sydd gennym

Rydym eisoes wedi nodi'r pethau sy'n digwydd yng Nghwm Taf ac mae angen inni adeiladu arnynt yn y dyfodol.

Gall balchder yn ein cymunedau a'r hyn yr ydym yn ei wneud gael ei wneud hyd yn oed yn well trwy edrych ar yr hyn sydd gennym o'n cwmpas a defnyddio ein hasedau lleol

Mae sefydlu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn golygu bod yr holl sefydliadau sy'n gallu helpu i wneud gwahaniaeth i les eisoes yn eistedd o amgylch yr un bwrdd

Newid yr hyn y gallwn ni

Mae angen inni ddechrau'n fach ac adeiladu ar yr hyn yr ydym eisoes yn ei wybod ei fod yn gweithio.

Gallai hyn olygi gwneud y gorau o arian neu amser i gael rhywbeth yn iawn a gweithio gyda'n gilydd i wneud gwahaniaeth go iawn

Gellir gwella a diogelu lles yn y dyfodol os gwyddom sut i wneud gwahaniaeth a'i wneud cyn gynted ag y bo modd, cyn i bethau ddechrau neu waethygu.


Map or Wefan | Golwg argraffadw | © 2008 - 2024 Cwm Taf Morgannwg

Powered by mojoPortal | HTML 5 | CSS |