If you're seeing this page there is a problem with the layout.master file of your skin.

Lles Amgylcheddol

Amgylchedd naturiol iach

Gall amgylchedd naturiol iach fod yn ffordd gost-effeithiol o adfywio a gwella cymdogaethau. Mae'r amgylchedd yn dylanwadu ar dwristiaeth, sydd yn ei dro yn cefnogi buddsoddiad, yn darparu swyddi a chyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd.

"Cyfleoedd i adeiladu ar botensial Cwm Taf fel cyrchfan beicio premiwm"

 

"Gall ffocws ar dechnolegau 'gwyrdd' newydd sy'n dod i'r amlwg helpu i ddatblygu sgiliau, hyfforddiant a chyflogaeth a fydd yn rhoi Cwm Taf ar flaen y gad o ran cynaliadwyedd"

 

Yr amgylchedd ac Iechyd

Mae gan amgylchedd Cwm Taf (trefol a chefn gwlad) rôl bwysig i'w chwarae wrth wella iechyd a lles pobl

"Mae pobl yng Nghwm Taf yn cysylltu gweithgaredd corfforol cysylltiedig â lles"

 

"Mae gan Gwm Taf gyfoeth o weithgareddau cymunedol a chlybiau chwaraeon"

 

"Mae gan Gwm Taf dros 800km o hawliau tramwy cyhoeddus ac mae tua thraean o'r tir ar agor"

 

Rheoli ardaloedd lleol

Gall cyfranogiad cymunedol ehangach fod yn gatalydd ar gyfer gwella lles corfforol a meddyliol trwy ddatblygu sgiliau, ymladd ynysu, annog bondio cymdeithasol, meithrin gallu cymunedol a diwylliant, y celfyddydau ac iaith wrth ddisgrifio perthynas â'r amgylchedd.

"Mae deg ardal faner werdd a dwy gymuned faner werdd yng Nghwm Taf"

 

"Mae ardaloedd mawr o goedwigoedd a choetiroedd Cwm Taf yn eiddo i'r cyhoedd"

 

"Mae'r amgylchedd yng Nghwm Taf yn cael ei ystyried fel ased aruthrol, gan wneud i bobl deimlo'n falch, yn gadarnhaol ac yn hapus"

 

Newid hinsawdd

Bydd angen i Gwm Taf gynllunio mesurau addasu i sicrhau gwydnwch hirdymor ei chymunedau rhag effeithiau tywydd garw.

"'Bryniau Iachus/ Healthy Hillsides', dull aml-bartner i reoli bryniau'r Rhondda yn rhagweithiol, a lleihau effaith a difrifoldeb tanau gwyllt"

 

"Adfer cynefinoedd mawndiroedd trwy gynllunio a chytundebau ar gyfer ffermydd gwynt, a'u dwyn i mewn i reoli cadarnhaol hirdymor"

 

"Cynnydd mewn tyfu bwyd cymunedol yn annog pobl i dyfu a bwyta eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain, gan helpu i leihau'r risg o afiechyd a gordewdra"

 

Bywyd gwyllt unigryw

Mae natur yn cyfoethogi ein bywydau ac yn rhoi sylfaen i ni a diogelu bywyd

"Mae bywyd gwyllt Cwm Taf yn unigryw, yn amrywiol ac yn bwysig"

 

"Mae asedau cyhoeddus yng Nghwm Taf yn darparu cyfleoedd i fudiadau a chymunedau gydweithio"

 

Lle diogel, awyr agored i blant

Mae plant yn gwario llai o amser yn yr awyr agored ond dangoswyd bod mynediad at le chwarae diogel, naturiol yn yr awyr agored yn gwella lles corfforol ac emosiynol. Mae chwarae mewn natur yn cryfhau gallu plant i ymdopi â straen, yn annog diddordeb mewn gofalu am yr amgylchedd ac yn cyfrannu tuag at ystwythder, cydbwysedd, creadigrwydd, cydweithrediad cymdeithasol a chanolbwyntio.

"Mae plant (a'u rhieni) yng Nghwm Taf yn mwynhau gweithgareddau awyr agored"

 

"Skogsmulle - mae ysgolion yng Nghwm Taf wedi cymryd rhan yn y rhaglen dysgu awyr agored blynyddoedd cynnar"

 

"Mae pobl ifanc yng Nghwm Taf yn mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon yn gynyddol"

 

Map or Wefan | Golwg argraffadw | © 2008 - 2024 Cwm Taf Morgannwg

Powered by mojoPortal | HTML 5 | CSS |