If you're seeing this page there is a problem with the layout.master file of your skin.

Bwyd a Diod

Dymunwn i bobl Cwm Taf fwynhau deiet iach, cytbwys fel rhan o’u ffordd o fyw. Mae gan bobl sy’n bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau y dydd risg is o glefyd y galon, strôc a rhai canserau ond dim ond rhyw 1 o bob 5 o bobl yng Nghwm Taf sy’n bwyta’r dognau sy’n cael eu hargymell.

Defnyddiwch y tab hwn i ddysgu am ein harferion bwyta ac yfed yng Nghwm Taf, sut rydym ni’n rheoli’r gwastraff a gynhyrchwn a sut mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio yn y sector yma i gyflawni ei amcanion. Bydd y tab data yn rhoi mwy o wybodaeth am y pwnc hwn.

Tymhorol Fydd newyddion ac erthyglau yn cael ei ychwanegu yma yn ystod y flwddyn.

Cymunedau Ffyniannus Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio gyda thrigolion Rhondda Fach Uchaf a Gurnos i greu cymuned sy’n mwynhau ffordd iach o fyw ac yn gallu manteisio ar wasanaethau a grwpiau sy’n gallu hekpu gyda hyn, fel banciau bwyd a chylchoedd coginio cymunedol. Gwneud defnydd ar erddi cymunedol?

Pobl Iach Deiet iach cytbwys yw sylfaen poblogaeth iach. Rydym ni’n hyrwyddo ymddygiadau iach gyda’n staff a’n dinasyddion ac yn gweithio fel un sector cyhoeddus i annog dewisiadau iach o ran bwyd a diod, gan gynnwys diodydd heb siwgr ychwanegol a lleihau faint o fwyd brys rydym ni’n ei fwyta.

Economi Gryf Mae ein harferion bwyta’n effeithio’n uniongyrchol ar yr economi leol, yn arbennig hamdden a thwristiaeth. Mae hamdden, twristiaeth ac arlwyo yn cyflogi tua xxxx yn yr ardal ac yn denu llawer o ymwelwyr gyda’r bwyd a’r diod sy’n cael eu cynnig: Croeso RCT a Croeso Merthyr.

Trechu Teimlo’n Unig ac Ynysig Mae ‘torri bara’ gyda rhywun yn ffordd o gymdeithasu ers tro byd, ac mae llawer o grwpiau sy’n cynnig paned cymdeithasol, neu gylchoedd coginio / garddio sy’n annog y sawl sy’n teimlo’n gymdeithasol unig neu ynysig i ddod yn ôl i mewn i’w cymuned.


Map or Wefan | Golwg argraffadw | © 2008 - 2024 Cwm Taf Morgannwg

Powered by mojoPortal | HTML 5 | CSS |