If you're seeing this page there is a problem with the layout.master file of your skin.

Dysgu a Hyfforddi

Dymunwn i bobl o bob oedran yng Nghwm Taf allu ennill sgiliau a chymwysterau newydd i drechu’r heriau maen nhw’n eu hwynebu.

Defnyddiwch y tab yma i gael gwybod am gyfleoedd dysgu a hyfforddiant yn ardal Cwm Taf, a sut mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio yn y sector hwn i gyflawni ei amcanion. Bydd y tab data yn rhoi mwy o wybodaeth am lefelau addysg a ssgiliau Cwm Taf.

Tymhorol Fydd newyddion ac erthyglau yn cael ei ychwanegu yma yn ystod y flwddyn

Cymunedau Ffyniannus Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio gyda thrigolion Rhondda Fach Uchaf a Gurnos sy’n adeiladu cymuned sy’n croesawu cyfleoedd mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant. Dysgwch fwy am beth sy’n digwydd yn ein Parthau Cymunedol, sy’n gysylltiedig â’n hymwneud â’r ysgolion leol yn y ddwy ardal.

Pobl Iach Dymunwn i bobl fyw bywydau hir ac iach a gallu goresgyn heriau fel eu bod mewn sefyllfa’n gorfforol ac yn feddyliol i fanteisio ar gyfleoedd dysgu a hyfforddi sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo ymddygiadau iach gyda’n staff a’n dinasyddion a gweithio fel un sector cyhoeddus i annog dewisiadau iach, gan gynnwys diodydd heb siwgr ychwanegol a manteisio i’r eithaf ar gynigion dysgu awyr agored.

Economi Gryf Rydym yn gweithio i ysgogi a hybu dyheadau a sgiliau ein pobl i fodloni cyfleoedd gyrfa’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Gan feddwl am y tymor hir, rydym ni hefyd yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau y bydd anghenion sgiliau’r dyfodol yn cael eu diwallu, a bod y cyfleoedd mae eu heisiau ar ein pobl ifanc ar gael iddyn nhw.

Trechu Teimlo’n Unig ac Ynysig Mae dysgu sgiliau newydd ac ymgymryd â chyfleoedd hyfforddiant yn gallu bod yn frawychus ond mae’n cynnig cyfle rhagorol i gwrdd â phobl newydd ac yn aml mae ar gael ar ffurf presgripiynu cymdeithasol. Hefyd mae ysgolion, colegau, grwpiau ieuenctid a gwasanaethau lleol yn rhoi cymorth hanfodol i bobl ifanc sy’n teimlo’n unig neu’n ynysig yn gymdeithasol.


Map or Wefan | Golwg argraffadw | © 2008 - 2024 Cwm Taf Morgannwg

Powered by mojoPortal | HTML 5 | CSS |