Am Gymru iachach, hapusach a thecach

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw’r asiantaeth iechyd y cyhoedd cenedlaethol yng Nghymru ac mae’n bodoli i amddiffyn a gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau iechyd ar gyfer pobl yng Nghymru. Rydym yn rhan o’r GIG ac yn atebol i Ysgrifennydd Iechyd, Lles a Chwaraeon y Cabinet yn Llywodraeth Cymru.

Gyda Bwrdd cryf, 1,700 o staff a chyllideb o £106 miliwn, mae’r sefydliad yn cyflogi’r rhan fwyaf o’r adnodd iechyd y cyhoedd arbenigol yng Nghymru.

Rydym yn rhoi cyngor, arbenigedd a gwasanaethau arbenigol i Lywodraeth Cymru (gan weithio ar draws adrannau), y saith bwrdd iechyd, dwy Ymddiriedolaeth y GIG, 22 awdurdod lleol, asiantaethau eraill a phoblogaeth Cymru.

Rydym yn darparu gwybodaeth am iechyd y cyhoedd, arbenigedd gwyddonol a gwybodaeth i arwain trawsnewid ac ysgogi ffocws ar sicrhau ein bod yn cyflenwi gwelliannau diriaethol mewn canlyniadau iechyd a lles ac yn lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Mae iechyd a llywodraeth leol ymysg y meysydd sydd wedi eu datganoli yng Nghymru ac felly, gan weithio’n genedlaethol ac yn lleol, mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fynediad i ysgogwyr polisi a systemau cyflenwi lleol trwy weithio’n agos gyda’n partneriaid.

Athro Sir Mansel Aylward

Cadeirydd

Tracey Cooper

Prif Weithredwr

Huw George

Dirprwy Brif Weithredwr

Cyswllt poblogaidd (Saesneg yn unig)