If you're seeing this page there is a problem with the layout.master file of your skin.

Mae mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd yn thema drawsbynciol o'n holl waith. Yr ysbryd cymunedol sy'n bodoli ar draws Cwm Taf yw un o'n hasedau mwyaf, ond rydyn ni'n gwybod mae llawer o bobl yn yr ardal sy'n profi teimladau o unigrwydd neu arwahanrwydd cymdeithasol.
Mae hyrwyddo ac annog gwirfoddoli yn un ffordd yr rydyn ni'n gweithio i frwydro yn erbyn hyn, yn ogystal â gweithio gyda'n cymunedau i adeiladu gwytnwch a gallu o'r tu mewn. Rydyn ni'n gwybod gwaith gwych yn digwydd ar draws yr ardal gan grwpiau cymunedol, gan fynd i'r afael ag anghenion lleol a chynyddu teimladau o gynhwysiant, cysylltiad a lles. Bu ein ffocws yn y flwyddyn gyntaf ar ddeall gwell rhwydweithiau a grwpiau presennol, a deall lle y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf, gan gynnwys integreiddio dulliau o Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg. Mae hyn wedi nodi tri maes gwaith y byddwn yn canolbwyntio arnynt yn y blynyddoedd i ddod:

Rhagnodi Cymdeithasol

Gwasanaethau Cyfeillio Cynaliadwy

Datblygu Cymorth ac Asedau Cymunedol

Fel thema drawsbynciol, rydyn ni'n am sicrhau bod gweithio i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd hefyd yn cael ei ystyried yn ein holl waith Amcanion. Gwelwyd tystiolaeth o hyn, hyd yn hyn, trwy'r ffeiriau gwirfoddoli a drefnwyd gyda'r grŵp Economi Gref ac ymglymiad y gymuned yn natblygiad yr Hybiau yn ein Parthau Cymunedol.

 


Map or Wefan | Golwg argraffadw | © 2008 - 2024 Cwm Taf Morgannwg

Powered by mojoPortal | HTML 5 | CSS |