Bwriad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ydy gwella llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth, a chynhalwyr sydd angen cymorth. Dan y Ddeddf yma, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, a'u partneriaid, wedi cyhoeddi Asesiad Poblogaeth ar y cyd.

Mae'r Asesiad Poblogaeth yn darparu trosolwg o anghenion gofal a chymorth pobl Cwm Taf ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus, a'r amrywiaeth o wasanaethau a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer diwallu'r anghenion hynny. Bydd yr Asesiad yn llywio Cynllun Ardal Lleol Cwm Taf. Bydd gwaith datblygu'r Cynllun Ardal Lleol yn cael ei wneud yn ystod y flwyddyn nesaf ac rydyn ni'n gobeithio bydd partneriaid yn parhau i fod yn rhan o'r gwaith pwysig yma.

Mae Asesiad Poblogaeth Cwm Taf i'w weld yma.

Llyfrgell Dechnegol