Fel rhan o'i Ddyletswydd Sector Cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, bob pedwar mlynnedd rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gynhyrchu Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy'n gosod allan beth yr ydym yn cynnig ei wneud er mwyn:

- Dileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth a mathau eraill o ymddygiad anghyfreithlon sydd wedi eu gwahardd gan y Ddeddf.

- Hyrwyddo cydraddoldeb cyfle rhwng unigolion sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl sydd ddim yn rhannu'r nodwedd honno.

- Hyrwyddo perthynas dda rhwng unigolion sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl sydd ddim yn rhannu'r nodwedd honno.

Ystod y CCS yw'r nodweddion gwarchodedig a enwir yn y Ddeddf, sef Oedran, Anabledd, Hil, Rhywedd, Cyfeiriadedd Rhywiol, Crefydd neu Gred, Hunaniaeth Rhywedd, Priodas neu Bartneriaeth Sifil a Beichiogrwydd neu Famolaeth.

Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24, sydd wedi'i atodi i'r neges hon, yn cynnig ffordd ymlaen i'r Bwrdd Iechyd yn y meysydd hyn, fodd bynnag, nawr mae gennych chi fel staff y cyfle i ddweud eich dweud a chyfrannu at y drafodaeth. Gallwch lenwi ein harolwg byr drwy'r dolenni canlynol.

Cymraeg / Welsh - https://www.surveymonkey.co.uk/r/VFW8P6Y

English / Saesneg - https://www.surveymonkey.co.uk/r/VFHT6CT