Mae Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg yn bartneriaeth statudol ag asiantaethau sy'n gyfrifol am ddiogelu plant ac oedolion sy'n agored i niwed yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr.
Nod y Bwrdd yw sicrhau bod pobl o bob oed yn cael eu diogelu rhag cael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu fathau eraill o niwed. Mae hyn hefyd yn golygu atal camdriniaeth, esgeuluso neu fathau eraill o niwed rhag digwydd. Bob blwyddyn, mae'n ofynnol i'r Bwrdd Diogelu lunio cynllun sy'n nodi ei flaenoriaethau dros y flwyddyn i ddod.
I ddweud eich dweud am yr hyn yr hoffech ei gynnwys yng Nghynllun Blynyddol y Bwrdd yn 2020/21, dilynwch y ddolen yma.
Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw dydd Gwener, 28 Chwefror.
|