Byddwch yn feistr ar eich iechyd

Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion llai adnabyddus canser, a’ch bod yn cysylltu a’ch meddyg os dydy rhywbeth ddim yn iawn.

Gall cysylltu a’ch meddyg teulu yn gynnar olygu ei bod yn haws trin problemau iechyd. Os ydych chi’n nabod rhywun sydd ddim wedi bod yn teimlo’n iawn, dywedwch wrtho neu wrthi am gysylltu a’i meddyg hefyd. Weithiau gall ychydig o anogaeth fod o gymorth mawr.

Os hoffech drafod symptomau canser a’r hyn i’w wneud os byddwch yn sylwi arnynt gydag un o Hyrwyddwyr Ymwybyddiaeth o Ganser Cwm Taf, ewch i’w tudalen Facebook www.facebook.com/CwmTafCancerChampions