Rhowch eich barn ar ein darpariaeth gofal iechyd gyfredol

Ar rhan o Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Fel darparwr a chomisiynydd gwasanaethau iechyd Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, rydym yn awyddus i'ch cynnwys chi yn ail-ddylunio ein gwasanaethau yn ogystal â chlywed eich barn ar ein darpariaeth gofal iechyd presennol.
 
Rydym yn cynnal nifer o gyfarfodydd cyhoeddus y flwyddyn ar draws Cwm Taf ac fe'ch gwahoddir yn gynnes i fynychu unrhyw un neu bob un o'r cyfarfodydd isod i fynegi'ch barn neu i ofyn cwestiynau am y pynciau ar yr agenda.
 
Bydd te a choffi yn cael eu darparu ym mhob un o'n sesiynau a bydd cyfle hefyd i siarad ag uwch staff y bwrdd iechyd ar ddiwedd y cyfarfodydd pe bai gennych unrhyw faterion penodol eraill yr hoffech eu codi.
 
Mae eitemau'r agenda ar gyfer y cyfarfodydd hyn yn cynnwys:
Dyfodol gofal y tu allan i ysbytai - byddwn yn disgrifio beth mae hyn yn ei olygu i chi ac yn arddangos y 'Stay Well @Home Service'.
Gwasanaethau Pediatrig, Obstetreg a Newydd-anedig - byddwn yn eich diweddaru ar ein cynlluniau diweddaraf i newid sut rydym yn darparu'r gwasanaethau hyn yng Nghwm Taf.
Oeddech chi'n gwybod bod Pen-y-bont yn ymuno â Chwm Taf? Darganfyddwch beth mae hyn yn ei olygu i chi a'ch cymuned leol.
 
Gall pynciau ychwanegol gael eu hychwanegu dros yr wythnosau nesaf - edrychwch ar ein gwefan www.cwmtaf.wales neu cysylltwch â Sharon Jeynes ar 01443 744839 am ragor o fanylion.
 
FFORWM CYHOEDDUS MERTHYR TUDFUL 
21 Tachwedd 2018 (Dydd Mercher)
9:30 yb i 11:30 yb (9:15 yb cofrestru)
Y Neuadd, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful CF47 8UB 
________________________________________
FFORWM CYHOEDDUS TAF-ELÁI 
22 Tachwedd 2018 (Dydd Iau) 
9:30 yb i 11:00 yb (9:15 yb cofrestru)
Canolfan Celfyddydau Y Muni, Heol Gelliwastad, Pontypridd CF37 2DP
________________________________________
FFORWM CYHOEDDUS CWM CYNON
28 Tachwedd 2018 (Dydd Mercher)
9:30 yb i 11:15 yb (9:15 yb cofrestru)
Canolfan Chwaraeon Michael Sobell, Yr Ynys, Aberdâr CF44 7RP 
________________________________________
FFORWM CYHOEDDUS CYMOEDD Y RHONDDA
28 Tachwedd 2018 (Dydd Mercher)
1:30 yp i 3:00 yp (1:15 yp cofrestru)
Stiwdio 3, Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, Heol Gelligaled, Ystrad CF41 7SY 
 
Rydym yn awyddus i godi nifer y cyfranogwyr sy’n mynychu’r digwyddiadau hyn, felly a wnewch chi rannu manylion y cyfarfodydd hyn â’ch teulu, eich ffrindiau a’ch cydweithwyr. 
 
Er mwyn gwneud y trefniadau angenrheidiol, rhowch wybod i ni os oes angen cyfieithiad Cymraeg arnoch neu gefnogaeth gyfathrebu arall oherwydd nam ar y synhwyrau.


Sharon Jeynes: sharon.jeynes@wales.nhs.uk
           01443 744839