Diagnostic-Hub-official-opening

Cafodd disgyblion Blwyddyn 10 o bob rhan o Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful cipolwg ar weithio i'r GIG yng Nghwm Taf.

Esboniodd staff proffesiynol o amrywiaeth o ddisgyblaethau, mewn ysbytai, gwasanaethau gofal sylfaenol a iechyd meddwl eu rolau a'u cyfrifoldebau yn ystod yr wythnos o ymweliadau gan y grŵp o 20.

Cafodd y myfyrwyr, a oedd wedi dangos diddordeb mewn gofal iechyd, eu dewis o Ysgol Gyfun Treorci; Ysgol Gyfun Bryn Celynnog, Ysgol Uwchradd Pontypridd; Coleg Cymunedol Tonypandy; Ysgol Uwchradd Afon Taf ac Ysgol Gymunedol Sirol y Porth.

Treulion nhw dau ddiwrnod yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant yn cwrdd â staff mewn meysydd sy'n cynnwys dysgu a datblygu, dadebru, podiatreg, peirianneg glinigol, arlwyo, a chadw tŷ.

Yn Ysbyty George Thomas, dysgon nhw am iechyd meddwl a gwaith therapyddion galwedigaethol i wella bywydau pobl sydd â dementia.

Roedd y ddau ddiwrnod yn Ysbyty Cwm Rhondda yn cynnwys staff gofal sylfaenol, deintyddiaeth, meddygaeth teulu, nyrsys ardal a nyrsio, fferyllfeydd, cofnodion meddygol, awdioleg, yr ystafell plastr, mân anafiadau a radioleg.

Mae rhaglen arall yn awr ar y gweill ar gyfer mis Gorffennaf, y tro hwn yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful, Parc Iechyd Keir Hardie ac Ysbyty Cwm Cynon yn Aberpennar.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.