Mae Cynllun Llesiant drafft ar gyfer rhanbarth Cwm Taf Morgannwg wedi ei ysgrifennu ac rydyn ni eisiau eich barn!

Mae dros 450,000 o bobl yn byw yn ardal Cwm Taf Morgannwg. Mae lles yn ymwneud ag ansawdd bywyd, a sut mae hynny'n gysylltiedig â'r amgylchedd, yr economi, y gwasanaethau rydyn ni eu hangen a'r diwylliant rydyn ni'n ei rannu. Mae llawer o bethau wedi siapio ein cymunedau a'n lles fel treftadaeth ddiwydiannol, y dirwedd a'r diddordebau cyffredin mewn chwaraeon a'r celfyddydau, gan roi hanes cyfoethog a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Gellir ystyried y rhain fel ffactorau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol, a diwylliannol.

Mae ein Asesiadau o Les yn darparu'r sail dystiolaeth ar gyfer y Cynllun Lles hwn, mae'r data a'r wybodaeth a gafodd eu casglu wedi'u defnyddio ochr yn ochr â'r hyn mae cymunedau a phobl leol wedi'i ddweud wrthym am fywyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, a Rhondda Cynon Taf. 

Thema gyffredinol ein Cynllun Lles yw 'Cwm Taf Morgannwg Mwy Cyfartal' ac mae hynny'n gyrru pob agwedd o waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. 

Dweud eich dweud drwy gwblhau ein harolwg tan 10 Chwefror 2023, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg