Cafodd yr Amcanion Lles (drafft) eu hysgrifennu fel man cychwyn yn unig. A chithau'n bobl sy'n gweithio ac yn byw yn ardal Cwm Taf, hoffai'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus glywed eich barn a'ch syniadau er mwyn helpu i lywio'r amcanion lles a meddwl am sut mae modd gweithio gyda'n gilydd i'w cyflawni. Dychmygwch ardal Cwm Taf dri deg mlynedd o heddiw. Beth hoffech chi'i weld?
Bydd eich ymatebion yn helpu i ddatblygu'r Cynllun Lles fydd yn cael ei gyhoeddi fis Mai 2018. Mae modd i chi gymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy gwblhau'r holiadur byr yma.
Bydd hi'n cymryd tua 15 munud i chi gwblhau'r ymgynghoriad. Mae'r ymgynghoriad yn ddienw - does dim rhaid i chi roi unrhyw wybodaeth adnabod. Nodwch fod pob blwch ar gyfer atebion yn gyfyngedig i 1000 o lythrennau (tua 150 gair) felly cadwch eich atebion yn gryno.
Os hoffech chi gwblhau ymateb yn ysgrifenedig, os oes gennych chi unrhyw ofynion hygyrchedd ychwanegol neu am fwy o wybodaeth, ffoniwch: 01685 351440.
Cwblhewch eich ymateb erbyn 19 Rhagfyr 2017.
Gallwch chi hefyd ddweud eich dweud yn y digwyddiadau hyn: