Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru ac Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru (WSSPR) yn cynnal astudiaeth i ddatblygu fframwaith gwerthuso a safonau adrodd ar gyfer rhagnodi cymdeithasol.

 

Hoffem eich gwahodd i gymryd rhan mewn tri gweithgaredd ar-lein dros y ddau fis nesaf. Pwrpas yr ymarfer yw symud tuag at safbwynt consensws ar yr hyn y dylai arfer gwerthuso da ei gynnwys ar gyfer rhagnodi cymdeithasol.

 

Bydd yr astudiaeth yn cael ei chynnal ar-lein gan ddefnyddio meddalwedd o'r enw 'Group Wisdom' a bydd yn cynnwys ymarfer taflu syniadau, ac yna gweithgareddau grwpio a graddio i gyd yn gysylltiedig â'r pwnc. Ni fydd yr un gweithgaredd yn para mwy na 20-30 munud a gallwch ddechrau a dod yn ôl i'r gweithgaredd pan fydd gennych ychydig o amser rhydd.

 

Gweithredu

 

Tybed wnewch chi gofnodi eich diddordeb mewn cymryd rhan yn yr astudiaeth hon, drwy ateb yr e-bost hwn ar: wsspr@southwales.ac.uk. Yna bydd aelod o dîm yr astudiaeth yn cysylltu â chi gyda gwybodaeth bellach ac yn anfon ffurflen gydsynio i chi ei llenwi. Unwaith y caiff honno ei dychwelyd atyn nhw, fe fyddan nhw'n rhoi dolen gyswllt i chi gyrraedd y feddalwedd ynghyd ag enw defnyddiwr a chyfrinair unigryw i chi.

 

Rydym yn sylweddoli pa mor brysur a heriol ydy pethau ar hyn o bryd, ond gobeithiwn y gallwch ddod o hyd i ychydig o amser i'n helpu i ddatblygu'r gwaith hwn.

 

Gan ddiolch i chi wrth ragdybio y gwnewch gymryd rhan, rydyn ni'n gwerthfawrogi'ch cyfraniad yn fawr iawn. Os oes gennych unrhyw gwestiwn, mae croeso i chi gysylltu â'r tîm ymchwil ar: wsspr@southwales.ac.uk