Fforymau Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn awyddus i'ch cynnwys chi yn ail-ddylunio ein gwasanaethau yn ogystal â chlywed eich barn ar ein darpariaeth gofal iechyd presennol.

Mae’n nhw’n cynnal nifer o gyfarfodydd cyhoeddus y flwyddyn ar draws Cwm Taf ac fe'ch gwahoddir yn gynnes i fynychu unrhyw un neu bob un o'r cyfarfodydd isod i fynegi'ch barn neu i ofyn cwestiynau am y pynciau ar yr agenda.

Bydd te a choffi yn cael eu darparu ym mhob un o'n sesiynau a bydd cyfle hefyd i siarad ag uwch staff y bwrdd iechyd ar ddiwedd y cyfarfodydd pe bai gennych unrhyw faterion penodol eraill yr hoffech eu codi.

Mae eitemau'r agenda ar gyfer y cyfarfodydd hyn yn cynnwys:
•    Eich Tîm Iechyd - a oeddech chi'n gwybod bod gennym ystod o weithwyr gofal iechyd yn barod i'ch helpu pan fyddwch chi'n teimlo'n sâl? Dewch draw a byddwn yn dweud wrthych beth sydd ar gael.
•    Llawfeddygaeth Thorasig - rydym am eich barn chi am leoliad arfaethedig y llawfeddygaeth feddygfa arbenigol ar gyfer clefydau'r frest.
•    Gwasanaethau Pediatrig, Obstetreg a Newydd-anedig - byddwn yn eich diweddaru ar ein cynlluniau diweddaraf i newid sut rydym yn darparu'r gwasanaethau hyn yng Nghwm Taf.
•    Oeddech chi'n gwybod bod Pen-y-bont yn ymuno â Chwm Taf? Darganfyddwch beth mae hyn yn ei olygu i chi a'ch cymuned leol.

Gall pynciau ychwanegol gael eu hychwanegu dros yr wythnosau nesaf - edrychwch ar ein gwefan www.cwmtaf.wales neu cysylltwch â Sharon Jeynes ar 01443 744839 am ragor o fanylion.

FFORWM CYHOEDDUS MERTHYR TUDFUL 
31 Gorffennaf 2018 (Dydd Mawrth)
9:30 yb i 11:30 yb (9:15 yb cofrestru)
Y Theatr, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful CF47 8UB 
________________________________________

FFORWM CYHOEDDUS CYMOEDD Y RHONDDA
8 Awst 2018 (Dydd Mercher)
9:30 yb i 11:30 yb (9:15 yb cofrestru)
Stiwdio 3, Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, Heol Gelligaled, Ystrad CF41 7SY 
________________________________________
FFORWM CYHOEDDUS TAF-ELÁI 
13 Awst 2018 (Dydd Llun)
1:30yp i 3:30 yp (1:15 yp cofrestru)
Ystafell Gynadledda, Canolfan Hamdden Llantrisant, Parc Southgate, Llantrisant, CF72 8DJ

________________________________________
FFORWM CYHOEDDUS CWM CYNON
15 Awst 2018 (Dydd Mercher)
1:30yp i 3:30 yp (1:15 yp cofrestru)
Canolfan Chwaraeon Michael Sobell, Yr Ynys, Aberdâr CF44 7RP 


Rydym yn awyddus i godi nifer y cyfranogwyr sy’n mynychu’r digwyddiadau hyn, felly a wnewch chi rannu manylion y cyfarfodydd hyn â’ch teulu, eich ffrindiau a’ch cydweithwyr. 

Er mwyn gwneud y trefniadau angenrheidiol, rhowch wybod iddi nhw os oes angen cyfieithiad Cymraeg arnoch neu gefnogaeth gyfathrebu arall oherwydd nam ar y synhwyrau.


Sharon Jeynes: sharon.jeynes@wales.nhs.uk
           01443 744839