Sefydliadau ledled Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yn uno i lansio’r Cynllun Llesiant Cwm Taf cyntaf ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae cynllun pum mlynedd i ddatblygu mwy o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant, rhoi dechrau gwell mewn bywyd i fabanod, a gwella iechyd meddwl pobl ifanc wedi’i lansio gan gasgliad o sefydliadau o’r sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol ledled Cwm Taf. Mae ‘Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf’ yn cynnwys sefydliadau o bob rhan o Ferthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys y bwrdd iechyd, awdurdodau lleol, yr heddlu, y gwasanaeth tân, y sector gwirfoddol, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r gwasanaeth prawf.

Sefydlwyd y Bwrdd ar ôl i’r Cynulliad Cenedlaethol basio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac mae’n chwyldroi sut y mae gwasanaethau cyhoeddus lleol yn cael eu cynllunio a’u cyflawni ar gyfer y dyfodol. Y nod yw symud y pwyslais oddi wrth sefydliadau unigol yn ymateb i broblemau cymdeithasol cymhleth, i ddatrys y problemau ar y cyd. Bydd y Cynllun Llesiant yn cael ei gyhoeddi heddiw (3 Mai) ac mae’n defnyddio dull wedi’i seilio ar le, sy’n galluogi’r holl bartneriaid i gydweithio’n fwy effeithiol â thrigolion i nodi materion, blaenoriaethau ac atebion posibl mewn ardaloedd a dargedwyd.

Mae Glynrhedynog/Tylorstown yn Rhondda a’r Gurnos ym Merthyr Tudful wedi’u nodi’n ddwy ardal lle caiff y cynllun ei dreialu ac os bydd y dull yn llwyddiannus, caiff ei gyflwyno i gymunedau eraill ledled Cwm Taf. Mae tyfu gweithlu’r dyfodol yn rhan allweddol o’r Cynllun Llesiant, yn arbennig darparu mwy o gyfleoedd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant yn y sefydliadau sector cyhoeddus sy’n rhan o’r Bwrdd, er mwyn helpu i ddatblygu gweithlu medrus a chynaliadwy yn lleol. Amcan allweddol arall yw canolbwyntio ar 1000 diwrnod cyntaf baban – o feichiogrwydd i 2 flwydd oed. Bydd adolygiad o’r gwasanaethau presennol yn cael ei gynnal i ddarganfod beth sydd angen ei newid er mwyn cynnig gwell cymorth i rieni newydd a babanod.

 

Bydd y Cynllun Llesiant hefyd yn ceisio canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar i leihau’r angen am wasanaethau plant a phobl ifanc, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, a datblygu gwasanaethau mwy integredig sy’n cynnwys gwasanaethau iechyd, cymdeithasol ac ysgolion yn yr ardal. Bydd ymgyrchoedd newid ymddygiad i annog ffyrdd iachach o fyw a chynnig cymorth yn dechrau hefyd yn y sefydliadau eu hunain trwy draws-hyrwyddo negeseuon cadarnhaol ymhlith miloedd o staff lleol. Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, yr Athro Marcus Longley – sydd hefyd yn gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, “Mae’r cynllun hwn yn ymwneud â sut yr ydym yn gwella pethau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac yn sicrhau bod y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud heddiw yn ystyried y tymor hirach er eu lles nhw. Er bod llawer o gydweithio eisoes ar draws ein sefydliadau, bydd y dull ar y cyd hwn yn cael ei ymwreiddio’n wirioneddol yn y ffordd yr ydym yn dod o hyd i atebion i rai o’r materion gwirioneddol heriol yn ein cymunedau, na all yr un ohonom fynd i’r afael â nhw yn unigol. Rwy’n falch iawn o gael cyhoeddi’r Cynllun Llesiant heddiw, ac rwy’n ymwybodol iawn mai megis dechrau y mae’r gwaith caled o gyflawni gwelliannau go iawn a fydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl.”