Ym mis Rhagfyr y llynedd, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Lee Waters y byddai pob cartref yng Nghymru yn gallu casglu coeden ar gyfer eu gardd neu gael coeden wedi'i phlannu ar eu rhan. Rydym yn gweithio gyda'r Woodland Trust i wneud hyn.  Lansiwyd ymgyrch Fy Nghoeden, Ein Coedwig ar 25 Chwefror pan agorwyd y 5 canolfan gyntaf.  Mae rhagor o fanylion ar gael drwy ein tudalen we bwrpasol ar gyfer y Goedwig Genedlaethol Coedwig Genedlaethol i Gymru | LLYW.CYMRU

Nawr rydym wedi lansio map rhyngweithiol ar-lein.  Hoffem i chi ein helpu i ddeall ble yr hoffech weld mwy o goed yn cael eu plannu yn eich cymunedau drwy ollwng pin ar y map. Wrth chwyddo maint y map i weld ardal leol, gallwch osod sawl haen ddata ar ben y map wrth glicio ambell fotwm.  Gobeithiwn y bydd hyn yn darparu rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol. Bydd yr wybodaeth a gesglir o hyn yn cael ei defnyddio i weld ble y gallai fod yn bosibl plannu coed a byddwn yn gweithio gyda thirfeddianwyr i weld beth sy'n cael ei ganiatáu a beth sy'n bosibl.  Gallwch weld y Map drwy ein tudalen we bwrpasol ar gyfer y Goedwig Genedlaethol Coedwig Genedlaethol i Gymru | LLYW.CYMRU

Byddwn yn cydweithio â thirfeddianwyr o ddinasoedd, trefi yn ogystal ag ardaloedd gwledig i weld sut y gallwn dyfu a datblygu’r Goedwig Genedlaethol i Gymru. 

DS: Nid yw defnyddio'r map yn rhoi caniatâd i blannu coed nac yn cadarnhau y bydd coeden yn cael ei phlannu yno. Cysylltwch â thirfeddianwyr a chael y caniatâd cywir bob amser i blannu coed, gweler y ganolfan creu coetiroedd i gael rhagor o wybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru / Cael help i blannu coed a chreu coetir (naturalresourceswales.gov.uk)