Llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Kevin O’Neill, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar ei lwyddiant o gael ei benodi fel Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf (y Bwrdd) ar gyfer 2020-21 yng nghyfarfod y Bwrdd ddydd Mawrth 28 Gorffennaf 2020. Mae’n cymryd lle’r Athro Marcus Longley, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, wrth iddo ymddiswyddo o’i rôl ar ôl dwy flynedd fel Cadeirydd. 

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf yn gasgliad o sefydliadau cyhoeddus a’r trydydd sector, a sefydlwyd o dan Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac mae’n cynnwys ardaloedd ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. 

 

Prif rôl y Cadeirydd yw sicrhau fod y Bwrdd yn effeithiol o ran cyflawni’r dasg o osod a gweithredu Cynllun Llesiant Cwm Taf yn unol ag egwyddorion datblygu cynaliadwy, a’i fod yn gweithredu fel prif fforwm arwain strategol ar gyfer cynllunio, comisiynu a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus ledled ffiniau sefydliadol  i gyflawni gwell deilliannau i bobl Cwm Taf. 

 

Dywedodd y Cynghorydd O’Neill y canlynol am ei benodiad, “Rwy’n falch iawn o gynrychioli Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar y grŵp pwysig hwn ac mae’n fraint ymgymryd â’r Gadair. Dangosodd y Bwrdd eisoes, o dan Gadeiryddiaeth ardderchog yr Athro Longley, yr holl fanteision sydd wrth weithio mewn partneriaeth. Byddaf, wrth weithio gyda chydweithwyr ar y Bwrdd, yn ceisio adeiladu ar y cynnydd a wnaed er budd y cyhoedd.”