Dyma'r cymoedd a helpodd i lunio a newid y byd – a heddiw, nid yn unig yr ydynt yn cynnig rhai o olygfeydd a threftadaeth gorau Cymru a'r DU, ond amrediad o weithgareddau awyr agored hefyd, fel beicio mynydd, caiacio a cherdded ar hyd llwybrau.

Wedi'u casglu dan Barc Rhanbarthol y Cymoedd, mae treftadaeth naturiol a diwylliannol Cymoedd y De yn cael eu hyrwyddo fel rhanbarth sydd wedi'i gysylltu gan ddeg safle dan enw Pyrth Darganfod ar hyn o bryd.

Ac ar wefan Parc Rhanbarthol y Cymoedd newydd, bydd trigolion, ymwelwyr a busnesau lleol yn gallu darganfod mwy o wybodaeth am yr hyn y gallant ei weld a'i wneud ar hyd y Cymoedd.

Cymerwch olwg ar y wefan Gymraeg yma: www.parcrhanbartholycymoedd.cymru  

A’r wefan Saesneg yma: www.valleysregionalpark.wales  

Dywedodd Phil Lewis, sy'n arwain Parc Rhanbarthol y Cymoedd: “Gan ddefnyddio dull cymoedd gyfan, nod Parc Rhanbarthol y Cymoedd yw hyrwyddo a dathlu adferiad tirwedd ein cymoedd, gan sicrhau ein bod yn dod ag iechyd y tir, y bobl a'r economi ynghyd ym mhopeth a wnawn. Bydd y wefan newydd hon yn ein helpu i wneud hynny.”

Mae safleoedd y Pyrth Darganfod yn cynnwys Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, Parc Gwledig Bryngarw a Chastell Caerffili yn ogystal â Ffordd Goedwig Cwm-carn, Parc Cyfarthfa a Pharc Gwledig Cwm Dâr.

Mae cyfanswm o ddeg safle wedi'u nodi, a'r safleoedd eraill yw Parc Bryn Bach ym Mlaenau Gwent, Parc Penallta yng Nghaerffili, Parc Slip ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a Pharc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd.

Dywedodd Huw David, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Nod Parc Rhanbarthol y Cymoedd yw gwneud y gorau o'r dirwedd, yr adnoddau naturiol a'r asedau diwylliannol bendigedig sydd gennym yn ein cymoedd ar gyfer y bobl hynny sy'n byw yn ein cymunedau, ar gyfer ein hamgylchedd ac ar gyfer yr economi.

“Mae rhwydwaith enfawr o ucheldiroedd, coetiroedd, gwarchodfeydd natur, parciau gwledig, afonydd, cronfeydd dŵr a chamlesi, safleoedd treftadaeth ac atyniadau yn cysylltu ein trefi a'n pentrefi yn y Cymoedd gyda'i gilydd.

“Gyda'u hanes a'u harddwch, maent yn haeddu proffil cenedlaethol a rhyngwladol.”

Mae'r wefan newydd yn cynnwys map o'r rhanbarth a rhoddir gwybodaeth am safleoedd y Pyrth Darganfod, lle ceir dolen i brif wefan y safle penodol. Yn ogystal â gweithgareddau a digwyddiadau, caiff cyfleoedd i wirfoddoli eu rhestru.

Cyhoeddwyd Parc Rhanbarthol y Cymoedd gan Lywodraeth Cymru yn 2018, ynghyd â buddsoddiad o £7 miliwn, i helpu i wneud y gorau o dreftadaeth naturiol a diwylliannol gyfoethog yr ardal.

Yn ogystal â hyrwyddo'r Cymoedd fel cyrchfan, mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd hefyd yn annog partneriaid i weithio tuag at arfer gorau o safbwynt rheoli tirwedd er mwyn helpu i wella bioamrywiaeth.

 

Cynhelir y bartneriaeth ranbarthol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac mae'r bwrdd yn cynnwys arweinwyr cyngor yr 13 o awdurdodau lleol a gwmpesir o fewn y rhanbarth.