Ar 25 Gorffennaf 2018, bydd Heddlu De Cymru yn dod yn un o'r heddluoedd cyntaf yn y wlad i gyflwyno tri llwybr mynediad newydd ar gyfer cwnstabliaid yr heddlu. Bydd y llwybrau newydd hyn yn disodli'r dull traddodiadol, a oedd yn cynnwys cwblhau'r Dystysgrif mewn Gwybodaeth am Blismona drwy Ddarparwr Cymeradwy Coleg Plismona cyn ymgymryd â Rhaglen Dysgu a Datblygu Gychwynnol yr Heddlu (IPLDP).

Drwy'r llwybrau newydd hyn bydd Heddlu De Cymru yn gobeithio denu talent o amrywiaeth eang o gefndiroed, gydag amrywiaeth o sgiliau a fydd yn helpu'r Heddlu i gyflawni eu gweledigaeth o fod yr heddlu gorau yn y wlad am wrando ac ymateb i anghenion eu cymunedau yn effeithiol.

Bydd Heddlu De Cymru hefyd yn gobeithio y bydd yn eu helpu i gyflawni eu huchelgais o fod yn weithlu sydd wir yn cynrychioli'r y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Cliciwch  yma am mwy am lwybrau mynediad newydd ar gyfer cwnstabliaid yr heddlu