Ardaloedd ar gyfer Cynlluniau Arfaethedig
• Parc y Darren (Prif faes ffocws)
Ystyried datblygu dôl blodau gwyllt ac ardal bicnic
• Hwb Cymuned Glynrhedynog (Ysgol Fabanod North Road yn gynt) ar ôl iddo agor
• Ystad Ddiwydiannol Crib-y-ddôl
Ardal Gerddi Cymunedol
• Rhoi planwyr i leoliadau cymunedol yn ardal y parth
Angen penderfynu pa leoliadau a sut byddan nhw'n cael eu cynnal?
• Ardal Park Greenwood (cae rygbi)
• Mannau awyr agored Blaenllechau
• Dwy ardal goffa yng Nglynrhedynog
Yr ardaloedd cyfagos a'r man ymgynnull
• Yr ardal goffa ger Parc Albany
Achlysur sy'n cael ei gynnal dros wythnos ac sy'n cynnwys sesiynau ar sgiliau garddio a sesiynau addysgu arferol er mwyn meithrin diddordeb yn y cynllun a chynnig cyfleoedd i aelodau'r gymuned er mwyn iddyn nhw ddysgu sut i greu gwestai chwilod a bocsys ystlumod, sut i wehyddu a sgiliau perthnasol eraill.
Yr Offer a Chyfarpar sydd eu hangen – rhestr o ddymuniadau
• Datblygu mapiau poced sy'n arddangos llwybrau cerdded a beicio lleol
• Deunyddiau ar gyfer gwelyau wedi'u codi – trawstiau / planwyr
• Rhoi planwyr i leoliadau lleol
• Uwch bridd
• Compost
• Amrywiaeth o hadau a hadau blodau gwyllt i ddatblygu dôl ym Mharc y Darren
• Twnnel Polythen neu dŷ gwydr ar gyfer safle Crib-y-ddôl
• Dillad gwrth-ddŵr / dillad uchaf / dillad ar gyfer garddio neu gerdded
• Cyllid i dalu ar gyfer tiwtoriaid er mwyn gwella sgiliau aelodau'r gymuned trwy greu gwestai i chwilod, planwyr, tai adar, cynlluniau gwehyddu.
• Whilber x 2
• Menyg garddio ac offer
• Llogi sgip neu ôl-gerbyd
Pwyntiau i'w hystyried
• Mae angen cadarnhau a yw'r grŵp garddio (Ystad Ddiwydiannol Crib-y-ddôl) eisiau unrhyw gymorth a chyfarpar gan sefydliad Cyfoeth Naturiol Cymru. Doedd dim un cynrychiolydd wedi dod i'r cyfarfod.
• Ble bydd yr offer a'r cyfarpar yn cael eu cadw? A fydd modd i bob grŵp gael mynediad i'r storfa yma? Oes angen i ni brynu storfeydd? Ble bydd modd cadw'r storfeydd yma?
• Angen penderfynu ar fan dechrau o ran yr awgrymiadau uchod a beth sy'n hyfyw i'w gwneud yn y dyfodol agos, fel ein bod ni wedi sefydlu cynllun cyn y cyfnod cyllid nesaf.
Manylion Cyswllt Defnyddiol
Richard Barrett – Cadwch Gymru'n Daclus 07824504821
Mae Martyn Broughton – Croeso i'n Coedwig wedi dweud y bydd modd iddo roi cymorth a chyngor os fydd angen
Gareth Pernell – Cyngor RhCT – Bydd Hayley Manns yn anfon manylion