Eich meddyliau am fywyd yn RhCT, Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr

Beth mae llesiant yn eich ardal yn ei olygu i chi?

Mae llesiant yn ymwneud ag ansawdd bywyd, a sut mae hynny'n gysylltiedig â'r amgylchedd, yr economi, y gwasanaethau rydyn ni eu hangen a'r diwylliant rydyn ni’n ei rannu.

Ond mae'n wahanol iawn i bob un ohonom. 

Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr a Chwm Taf (RhCT a Merthyr) am glywed eich syniadau chi i'n helpu i gydweithio'n well ar y pethau sydd bwysicaf i bob un ohonom.

Gallwch lenwi’r holiadur ar-lein yma https://www.smartsurvey.co.uk/s/BGCCTM/  

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, os hoffech gael holiadur wedi'i argraffu neu os hoffech i ni ddod i siarad â'ch grŵp cymunedol, cysylltwch â ni drwy ffurflen gyswllt, neu e-bostiwch PSB@bridgend.gov.uk

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus fan hyn:

https://www.bridgend.gov.uk/cy/fy-nghyngor/cydweithio/bwrdd-gwasanaethau-cyhoeddus-pen-y-bont/

http://www.eincwmtaf.cymru/