Yn gynharach yn 2021, gofynnon ni ichi am eich barn ynghylch sut i wella llwybrau beicio a cherdded yn Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Roedd y cyfnod hwnnw o drafod yn llwyddiannus iawn gyda thros 1000 o bobl yn cymryd rhan. Rydyn ni wedi ystyried y sylwadau i gyd yn ofalus ac wedi cyfuno’ch barn chi â gwybodaeth berthnasol arall i lunio Map Rhwydwaith Teithio Llesol drafft.
Rydyn ni’n gofyn i breswylwyr, gweithwyr ac ymwelwyr i’n helpu ni i wneud Merthyr Tudful yn un o’r lleoedd hawsaf i gyrraedd pen eu taith trwy feicio neu gerdded, yn hytrach na defnyddio’r car.
Helpwch ni i gwblhau ein Map newydd ar gyfer y Rhwydwaith Teithio Llesol,
Mae’r ymgynghoriad yn weithredol tan 6 Rhagfyr a gallwch ei gyrchu yma: https://merthyrtydfil2.commonplace.is/