Rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau cymunedol ar draws y ddwy ardal, gan ofyn i'r trigolion beth oedd yn bwysig iddynt a beth ddylai ein blaenoriaethau fod.
Mae gwaith yn mynd rhagddo, trwy ein cysylltwyr cymunedol - Ceri yn Gurnos a Louise yn Rhondda Fach - i ddatblygu ‘rhwydweithiau cymdogaeth’ i helpu i gyflawni'r newidiadau yr ydyn ni’n i gyd am eu gweld. Mae hyn wedi cynnwys rhywfaint o'r gwaith i greu a gwella'r mannau gwyrdd yn y cymunedau hyn.