Mae FareShareCymru’n dod i RhCT ac yn awyddus i glywed gan sefydliadau dielw sy'n defnyddio bwyd er budd y bobl yn eu cymunedau.

Ynglŷn â FareShare Cymru:

Ein gweledigaeth ydy Cymru lle dydyn ni ddim yn gwastraffu bwyd da. Cymru lle mae cyn lleied â phosib o fwyd yn cael ei wastraffu a lle mae unrhyw fwyd sydd dros ben yn cael ei ddefnyddio er lles y rhai sydd ei angen fwyaf.

Ein nod ydy ailgyfeirio’r bwyd bwytadwy sy’n cael ei wastraffu gan wneuthurwyr ac adwerthwyr bwyd a’i ddosbarthu i bobl dan anfantais ar draws Cymru fydd yn elwa ohono.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â @faresharecymru neu ewch i http://www.fareshare.cymru/