Mae Gwasaneath Prawf Cenedlaethol yn wasanaeth cyfiawnder troseddol statudol sy’n goruchwylio troseddwyr risg-uchel a ryddheir i’r gymuned.

Sefydlwyd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol ar 1 Mehefin 2014, ynghyd â 21 cwmni adsefydlu cymunedol sy’n rheoli troseddwyr risg isel a chanolig. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r CAC, gyda’r llysoedd, yr heddlu a chyda phartneriaid y sector preifat a gwirfoddol er mwyn rheoli troseddwyr yn ddiogel ac yn effeithiol.

Ein blaenoriaeth yw amddiffyn y cyhoedd trwy adsefydlu troseddwyr risg uchel yn effeithiol, trwy fynd I’r afael ag achosion troseddu a galluogi troseddwyr i droi eu bywydau o gwmpas.

Rydym yn gyfrifol am:

paratoi adroddiadau cyn-dedfrydu ar gyfer llysoed I’w helpu i ddewis y ddedfryd fwyaf priodol

rheoli mangreoedd cymeradwy ar gyfer troseddwyr sydd â gofyniad preswylio ar eu dedfryd

gan asesu troseddwyr yn y carchar er mwyn eu paratoi I’w rhyddhau are dwydded I’r gymunded, pan fyddant un dod da nein goruchwyliaeth

gan helpu pob troseddwr sy’n cyflwyno dedfrydau yn y gymuned I gwrdd â’r gofynion a orchmynnir gan y llysoedd

cyfathrebu â lles dioddefwyr troseddau rhywiol a threisgar difrifol a blaenoriaethu, pan fydd y troseddwr wedi cael dedfryd o garchar o 12 mis neu fwy, neu os caiff ei gadw fel claf iechyd meddwl

Simon Boddis

Cyfarwyddwr, Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr

Sonia Crozier

Cyfarwyddwr, Prawf

Micahel Spurr

Prif Weithredwr

Cyswllt poblogaidd (saesneg yn unig)