Y Partneriaid sy’n rhan o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf ar hyn o bryd yw...
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
Mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn darparu gwasanaethau gofal iechyd yn yr ysbyty a’r gymuned i drigolion Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
|
Interlink RCT
Interlink yw Cyngor Gwirfoddol Sirol Rhondda Cynon Taf, sy’n gyfrifol am weithio, cefnogi a chysylltu ag unigolion, cymunedau a chyrff trydydd sector.
|
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudfil
Canolbwyntio ar sicrhau bod y Bwrdeistref Sirol yn fwy ffyniannus yn economaidd, yn fyw bywiog, ac yn lle mwy hyfyw i fyw.
|
Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (gwefan Saesneg yn unig)
Cafodd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol ei sefydlu ar 1 Mehefin 2014, ynghyd ag 21 o gwmnïau adsefydlu cymunedol sy’n rheoli troseddwyr risg isel a chanolig. Gweithiwn mewn partneriaeth â’r cwmnïau adsefydlu hyn, gyda’r llysoedd, yr heddlu a phartneriaid yn y sectorau preifat a gwirfoddol er mwyn rheoli troseddwyr yn ddiogel ac yn effeithiol.
|
Cyfoeth Naturiol Cymru
Corff sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yw Cyfoeth Naturiol Cymru, gan weithio gyda phobl a chymunedau ledled Cymru i wella cadw, gwella a chynaladwyedd yr amgylchedd ac adnoddau naturiol.
|
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Mae’r Cyngor yn bodoli i ddarparu arweinyddiaeth gymunedol gryf a gwasanaethau effeithiol i bobl Rhondda Cynon Taf i’w galluogi i gyflawni eu potensial a ffynnu.
|
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yw’r asiantaeth iechyd cyhoeddus cenedlaethol yng Nghymru ac mae’n bodoli i amddiffyn a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru. Mae ICC yn rhan o’r GIG ac yn adrodd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn Llywodraeth Cymru.
|
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymateb i alwadau argyfwng mewn perthynas â thân, llifogydd ac achubiaethau arbennig eraill ledled De Cymru.
|
Heddlu De Cymru
Heddlu De Cymru sy’n darparu’r gwasanaeth plismona ledled De Cymru. Ar hyn o bryd y Prif Gwnstabl yw Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
|
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru
Mae ganddo gyfrifoldeb cyfreithiol dros bennu blaenoriaethau lleol ar gyfer plismona sy’n cael eu darparu gan Heddlu De Cymru.
|
Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful (VAMT)
Ei nodau yw cefnogi, cynrychioli a chynorthwyo datblygiad cyrff Trydydd Sector o’r radd flaenaf a gwirfoddoli ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
|
Cwmni Adsefydlu Cenedlaethol Cymru
Darparu gwasanaethau adsefydlu a rheoli troseddwyr i helpu i leihau aildroseddu ac amddiffyn y cyhoedd.
|
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru yw’r Llywodraeth ddatganoledig i Gymru sy’n gweithio ar draws meysydd bywyd cyhoeddus fel iechyd, addysg a’r amgylchedd. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu bod yn agored ac yn ymatebol i anghenion dinasyddion a chymunedau.
|
Am fwy o wybodaeth am Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf cysylltwch â: