Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru.

Rydym yn gweithio i wella bywydau pobl yng Nghymru a gwneud ein gwlad yn lle gwell i fyw a gweithio.

Mae Llywodraeth Cymru'n cynnwys:

Y Prif Weinidog

Gweinidogion Cymru

Y Cwnsler Cyffredinol

Y Dirprwy Weinidogion.

Cânt eu cefnogi gan Weision Sifil sy'n gweithio yn y meysydd datganoledig. Mae'r rhain yn cynnwys meysydd allweddol o fywyd cyhoeddus, fel iechyd, addysg a'r amgylchedd.

Ein nod yw bod yn agored ac ymateb i anghenion dinasyddion a chymunedau, a'n llywodraeth yw un o'r prin rai yn y byd sy'n cyhoeddi cofnodion a phapurau'r Cabinet. Mae cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli ar gyfer y rhan fwyaf o feysydd allweddol o fywyd cyhoeddus, gan gynnwys iechyd, addysg a'r amgylchedd.

Gyda swyddfeydd ledled Cymru, gan gynnwys Merthyr Tudful, Aberystwyth a Chyffordd Llandudno, rydym yn dod yn agosach at y bobl rydym yn eu gwasanaethu.

Rt Hon Carwyn Jones AC

Y Prif Weinidog Cymru

Richard Baker

Pennaeth Ystadau a Gwasanaethau Proffesiynol Cynrychiolydd LC ar BGC Cwm Taf