Cynllun Lles Cwm Taf (Drafft) 

Y llynedd, cynhaliodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Asesiad Lles Cwm Taf. Drwy gynnal yr asesiad, roedd gan y Bwrdd ddealltwriaeth dda o feysydd o'r gwaith mae rhaid eu blaenoriaethu. Mae hyn yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghwm Taf, a'r hyn fydd yn bwysig i genedlaethau yn y dyfodol, yn eu barn nhw. Archwiliodd yr asesiad yr hyn sydd gan ein cymunedau yn barod a rhai o'r anawsterau sydd gyda ni'n lleol.

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi defnyddio'r Asesiad Lles er mwyn ysgrifennu ambell i amcan lles (drafft). Mae'r amcanion yma yn amlinellu'r hyn bydd gwasanaethau cyhoeddus, o bosib, yn ei wneud dros y pum mlynedd nesaf i wella lles yng Nghwm Taf. Maen nhw hefyd yn edrych i'r dyfodol er mwyn gweld sut le fydd Cwm Taf ar gyfer cenedlaethau o blant, pobl ifainc, oedolion a phobl hŷn yn y dyfodol.

Bydd y Bwrdd yn gweithio gyda'i holl bartneriaid, gan gynnwys staff a'r cyhoedd, dros y misoedd nesaf i ystyried yr amcanion yma yn fwy manwl. Bydd e hefyd yn llunio Cynllun Lles, gan nodi'r hyn mae'n bwriadu ei gyflawni a'r camau gweithredu.

 

Dyma'r Amcanion Lles ar gyfer Cwm Taf (Drafft):

  • Hybu cymunedau diogel, hyderus, gwydn sy'n ffynnu, gan wella lles trigolion ac ymwelwyr ac adeiladu ar ein seiliau cymunedol;
  • Helpu pobl i fyw bywyd hir ac iach a goresgyn unrhyw heriau;
  • Tyfu economi leol gref gyda thrafnidiaeth gynaliadwy sy'n denu pobl i fyw, gweithio a chwarae yn ardal Cwm Taf.

Mae modd darllen y Cynllun Lles (drafft) cyfan yma:

 Cynllun Lles drafft Cwm Taf.pdf

Dros y deuddeg mis diwethaf mae'r BGC wedi bod yn siarad â phobl a chymunedau ar draws Merthyr Tudful a RhCT ynghylch yr hyn sy'n bwysicaf iddynt.

Cynhyrchodd Uned Ddata Cymru adroddiad sy'n nodi'r canfyddiadau hyn. I weld yr adroddiad, cliciwch yma