Lles Diwylliannol

Mae angen i bobl deimlo'n rhan o'u cymuned ac mae llawer am gynnig eu hamser, eu sgiliau a'u cysylltiadau

Mae ysbryd cymunedol yn cysylltu pobl, yn eu gwneud yn hapus ac yn gwella lles. Mae yna lawer o weithgareddau a grwpiau cymdeithasol sy'n dod â phobl at ei gilydd ac er bod llawer o'r rhain ar lefel 'llawr gwlad', mae enghreifftiau o'r rhain yn golygu bod cymunedau'n dod at ei gilydd ar gyfer achos cyffredin megis busnesau'n cael eu sefydlu neu brynu tir

“Gwelwyd bod cael teulu a ffrindiau gerllaw yn dda ar gyfer lles cymdeithasol”

“Teimlai pobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol ei bod yn bwysig eu cadw i fynd am eu lles eu hunain”

“Mae'r cynnydd mewn digideiddio yn golygu bod mwy o bobl yn treulio amser tu mewn ac nad ydynt yn adnabod eu cymdogion mor dda”

Dylai ein treftadaeth, hanes, tirwedd ac adeiladau gael eu dathlu a'u defnyddio yn y dyfodol

Y tirlun, yr adeiladau, yr amgylchedd naturiol a'r ieithoedd a siaredir yng Nghwm Taf yw'r pethau sy'n helpu pobl i deimlo eu bod yn perthyn. Gall treftadaeth Cwm Taf hefyd ddod â manteision economaidd i'r rhanbarth trwy dwristiaeth a dathliadau o fewn cymunedau lleol

“Mae'r ardal yn gyfoethog mewn asedau megis Amgueddfa Castell Cyfarthfa, Amgueddfa Dreftadaeth y Rhondda, Canolfan Soar a Redhouse sy'n arddangos ein treftadaeth a'n diwylliant”

“Mae’r tirwedd unigryw yng Nghwm Taf, wedi'i fowldio gan bobl a diwydiant, yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd corfforol a meddyliol pobl”

“Mae theatrau, sefydliadau glowyr a chlybiau o'n gorffennol diwydiannol yn dal i fodoli ac yn darparu lle i ddod at ei gilydd”

Mae'n ymddangos bod cymryd rhan mewn pethau'n dda i les pawb

Gall cyfranogiad wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a helpu unigolion i gymdeithasu, gweithio trwy broblemau a chael sgiliau newydd a all helpu gyda gwaith. Mae ymarfer corff, chwarae a gwylio chwaraeon yn cael effaith gadarnhaol debyg ar les corfforol a meddyliol

“Dywedodd pobl a oedd yn sâl, yn hen neu'n fregus bod edrych ymlaen at rywbeth yn bwysig i'w lles a'u hadferiad”

“Gwelwyd bod asedau lleol yn annog hamdden, fel Llwybrau Taf a Trevithick, a Lido Cenedlaethol Cymru ym Mhontypridd yn bwysig iawn.”

“Mae yna sin cerddorol ffyniannus ar draws Cwm Taf gyda chorau, gwyliau Merthyr Rock a Merthyr Rising a lleoliadau megis y Ffatri Pop a’r Muni”

Mae iaith yn rhan bwysig o bwy ydym ni ac yn ein gwneud ni'n teimlo ein bod ni'n perthyn

Mae'r iaith yr ydym yn ei siarad yn rhan bwysig o'n diwylliant a phwy ydyn ni. Denodd ein gorffennol diwydiannol bobl o bob cwr o'r byd, gan ddod ag amrywiaeth o ieithoedd i Gymoedd De Cymru.

“Y prif ieithoedd a siaredir yw Cymraeg a Saesneg, ond mae cyfrifiad 2011 Cwm Taf yn cynnwys Arabaidd, Tsieineaidd, Filipino, Pwyleg a Phortiwgaleg”

“Mae Gŵyl Pentref Byd-eang Merthyr Tudful yn croesawu'r holl ieithoedd a diwylliannau ac mae Parti Ponty yn un enghraifft yn unig o'r digwyddiadau sy'n dathlu iaith a diwylliant Cymru.”

“Mae mwy o blant a phobl ifanc yng Nghwm Taf bellach yn medru siarad Cymraeg, er bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn mynd i lawr yn gyffredinol”

100,000

“I gyrraedd y targed cenedlaethol, byddai angen tua 100,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghwm Taf - tua thraean o'r boblogaeth bresennol”