Cwm Taf – Asesiad Lles
Fel rhan o'i ddyletswydd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), bydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf yn datblygu Cynllun Lles (erbyn Mai 2018). Bydd y Cynllun yn cynnwys set o Amcanion Lles a'r camau y bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn eu cymryd i'w cwrdd.
Bydd cyflawni'r Amcanion Lles yn llwyddiannus yn helpu i wella lles diwylliannol, economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol y bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghwm Taf nawr ac yn y dyfodol. Gallwch ddilyn datblygiad yr Amcanion Lles a darganfod sut y gallwch chi gymryd rhan yn y sgwrs yma.
Er mwyn deall beth mae lles yn edrych ar hyn o bryd yng Nghwm Taf a'r hyn sy'n bwysig i'n cymunedau, cynhaliodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus asesiad o les yn gyntaf. Dywedodd hyn wrthym am:
Ein Poblogaeth
Mae Cwm Taf yn cynnwys dwy ardal Llywodraeth leol; Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
Mae 295,865 o bobl yn byw yng Nghwm Taf; mae 20% o’r boblogaeth yn byw ym Merthyr Tudful, ac 80% yn Rhondda Cynon Taf .
Mae mwy o bobl yn byw yma nag sy’n byw mewn llefydd cyffelyb eu maint yng Nghymru, ond ni ddisgwylir y bydd ein poblogaeth yn tyfu mor gyflym ac yn yr ardaloedd eraill hyn dros yr ugain mlynedd nesaf.
Erbyn 2039, disgwylir y bydd ein poblogaeth yn tyfu i 304,543.