If you're seeing this page there is a problem with the layout.master file of your skin.

BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS CWM TAF

DATGANIAD O FWRIAD

HYDREF 2016

Mae aelodau o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf wedi ymrwymo i lunio gwasanaeth cyhoeddus cydweithredol sy'n canolbwyntio ar y bobl sy'n byw yn ein cymunedau.

Ein nod yw arwain ein sefydliadau drwy gyfnod o newid diwylliant, a fydd yn creu ffordd fwy arloesol, integredig ac ataliol o wneud pethau. Bydd hyn o fudd i bobl sy'n byw yng Nghwm Taf ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Byddwn ni'n defnyddio ein dylanwad fel Bwrdd i annog sefydliadau cyhoeddus eraill i roi'r un dull gweithredu ar waith, yn ogystal â gwneud ymdrech ar y cyd i oresgyn unrhyw rwystrau sy'n ymwneud â deddfwriaeth, cyllid neu faterion ymarferol wrth wireddu ein nod.

Yn hytrach nag ymateb i broblemau, ein nod yw herio'r ffordd y caiff achosion brys eu rheoli a gwneud penderfyniadau a fydd o fudd i drigolion Cwm Taf yn y tymor hir. Rydyn ni'n awyddus i gyfuno ein hymdrechion er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i'r bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu. Byddwn ni'n gwneud hyn drwy feithrin dealltwriaeth a mynd i'r afael â'r hyn sy'n achosi problemau yn ogystal ag atal sefyllfaoedd rhag codi.

Drwy wneud hyn, rydyn ni'n bwriadu bod yn radical, gan ddileu'r ffiniau rhwng gwasanaethau a chreu dull o weithio sy'n berthnasol i ni a'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu. Er mwyn deall ystyr hyn, bydd pob yn gweithio ar yr un lefel â'r Bwrdd i lunio gwasanaethau, yn ogystal â'u darparu a'u gwella.

Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda thrigolion, ac o fewn ein sefydliadau ein hunain, mewn ffordd wahanol, gan wneud rhai penderfyniadau risg uchel a rhoi cynnig ar bethau sy'n ymddangos yn rhy anodd i'w gwneud.

Rydyn ni fel bwrdd yn bwriadu gwario arian mewn modd gwahanol, gan barhau i hyfforddi ein staff i ganfod beth sydd wedi achosi'r broblem. Rydyn ni'n caniatáu i'n staff helpu a galluogi pobl i fyw bywydau gwell.

Pwy ydyn ni:

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf yn cynnwys uwch reolwyr ac arweinwyr o sefydliadau cyhoeddus a sefydliadau'r sector gwirfoddol ledled Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru (y Cadeirydd presennol);
  • Prif Uwch-arolygydd, Heddlu De Cymru;
  • Rheolwr Gweithrediadau, Cyfoeth Naturiol Cymru;
  • Aelodau Etholedig, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Rhondda Cynon Taf;
  • Cadeiryddion Voluntary Action Merthyr Tudful ac Interlink RhCT;
  • Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu, Heddlu De Cymru.
  • Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf;
  • Cyfarwyddwr, Llywodraeth Cymru.
  • Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf;
  • Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf;
  • Aelodau Etholedig, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Rhondda Cynon Taf;
  • Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru;
  • Prif Swyddog y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol dros Gwm Taf;
  • Prif Swyddog y Cwmni Ailsefydlu Cymunedol dros Gwm Taf.

Dyma'r prif fforwm arweiniad strategol ar gyfer cynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau sy'n croesi ffiniau sefydliadau ac yn sicrhau canlyniadau gwell i bobl Cwm Taf


Map or Wefan | Golwg argraffadw | © 2008 - 2024 Cwm Taf Morgannwg

Powered by mojoPortal | HTML 5 | CSS |